Cyhoeddi Enillwyr Cystadleuaeth Ffotograffiaeth CUPHAT: Diolch enfawr i bawb a gyflwynodd lun, a llongyfarchiadau i’r rhai a gyrhaeddodd y rhestr fer. Roeddem wrth ein bodd gyda’r amrywiaeth o ddelweddau trawiadol a ddaeth o Gymru ac o’r Iwerddon.
Ein henillwyr rhanbarthol oedd:
- Cambria: Hester Smith – “Stad yr Hafod, Pontrhydygroes”
- Preseli: Sharon Carter – “Anadl y Ddraig”
- Blackstairs: Wakako O’Sullivan – “Edrych ar Blackstairs o fynydd Leinster”
- Wicklow: Sinclair Turrell – “Cylchgaer Brusselstown o Fynydd Keadeen”
Ein prif enillydd yw:
- Sinclair Turrell o Wicklow – “Cylchgaer Brusselstown o Fynydd Keadeen”
Llongyfarchiadau Sinclair!
Diolch i bawb a fu wrthi’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, boed yn tynnu lluniau neu’n bwrw pleidlais!