Amdanom ni

A view over Bray Head towards the Irish Sea, from Wicklow, Ireland

Nod cyffredinol CUPHAT yw arddangos treftadaeth naturiol a diwylliannol ardaloedd ucheldirol arfordirol yn Iwerddon a Chymru i gynyddu mathau cynaliadwy o dwristiaeth ynddynt, gan arwain felly at greu bywoliaeth, cymunedau ac amgylcheddau mwy cynaliadwy.

Bydd CUPHAT yn gweithio gyda deuddeg o gymunedau ucheldir ym mhedair ucheldir arfordirol Mynyddoedd Cambria, Preseli, Wicklow a’r Blackstairs i wireddu’r nod hwn. Mae gennym ddiddordeb mewn dysgu gan y cymunedau eu hunain am yr hyn y byddent am ei ddathlu a’i gyfathrebu i dwristiaid. I’r perwyl hwn, ein nod yw hyrwyddo math o dwristiaeth sy’n gweithio er budd yr ardaloedd hyn.

Ariennir CUPHAT gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru. Bydd y prosiect yn gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid cymunedol, lleol a chenedlaethol o Gymru ac Iwerddon, gyda Phrifysgol Aberystwyth yn arwain y prosiect, ac yn gweithio mewn partneriaeth â Choleg Prifysgol Dulyn ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed.

A sprinkling of snow on the Cambrian Mountains, Wales

Mae pedair ucheldir arfordirol Mynyddoedd y Cambria, Preseli, Wicklow a’r Blackstairs wedi dibynnu’n hanesyddol ar ddiwydiannau traddodiadol fel amaethyddiaeth a choedwigaeth. Maent hefyd yn ardaloedd y mae twristiaid yn ymweld â hwy ond mae lle i fanteisio ar y farchnad hon mewn ffyrdd mwy effeithiol a chynaliadwy.

Nod CUPHAT yw creu cyfleoedd i gymunedau elwa o dwristiaid sy’n chwilio am ardaloedd llai masnachol i ymweld â hwy, yn enwedig mewn perthynas â themâu: Bywydau byw & Tirweddau; Bioamrywiaeth; Archaeoleg; Daeareg/Geomorffoleg.

Os ydych yn ysgol, yn grŵp cymunedol, yn fusnes sy’n gysylltiedig â thwristiaeth, neu’n unigolyn â diddordeb yn un o’r ardaloedd ucheldirol arfordirol hyn, cysylltwch â ni.