Newyddion – blog

Ymweliad â Mynyddoedd Wicklow a Blackstairs yn Iwerddon

23ain-24ain Mai 2022

Ymwelodd aelodau tîm CUPHAT o AU, DAT ac UCD ag ardal Mynydd Wicklow ar 23 Mai 2022, gan ymweld â safleoedd diwylliannol a threftadaeth yn Iwerddon. Cyfarfu Twristiaeth Sirol Wicklow â ni hefyd ar y diwrnod cyntaf.

Roedd ymweliadau safle yn cynnwys: Parc Coffa Thomas Moore, Bro Avoca – Cyfarfod y Dyfroedd (Treftadaeth Naturiol a Diwylliannol); Dwyrain Avoca Mines (Treftadaeth Lleihau); Cwm Glenmalure (Treftadaeth mwyngloddio, Daeareg, Treftadaeth Naturiol a Diwylliannol); Glenmalure Lodge (busnes lleol); Tref Baltinglass (Canol cymhleth enfawr o 5 bryngaer; Treftadaeth ddiwylliannol) ac Abaty Baltinglass (Treftadaeth ddiwylliannol ac Archaeoleg); Brooklodge a Phentref Macreddin (Cyrchfan busnes a thwristiaeth leol).

Ar yr ail ddiwrnod ar 24 Mai 22, ymwelodd aelodau tîm CUPHAT o AU, DAT ac UCD hefyd â safleoedd diwylliannol a threftadaeth yn ardal Mynydd Blackgrisiau. Aeth y tîm ar daith o amgylch cyfleusterau pentref Macreddin a thrafod heriau twristiaeth; Bryngaer Rathgall (Archaeoleg, Treftadaeth Naturiol); Mount Leinster, drwy naw Stones (Treftadaeth Naturiol a Daeareg); a Monksgrange (Archaeoleg, Treftadaeth Naturiol a Diwylliannol).

Diwrnod Ewrop

9 Mai 2022

Mwynhaodd aelodau tîm CUPHAT gyfarfod â thimau prosiect Interreg eraill ym Mhrifysgol Aberystwyth a mwynhawyd te a chacen gan aelodau tîm DAT i ddathlu Diwrnod #Europe.

Lansio CUPHAT

27ain Ebrill 2022

Roedd lansiad CUPHAT yn llwyddiant ysgubol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth ar 27 Ebrill 2022. Cynhaliwyd hwn fel digwyddiad wyneb yn wyneb a chyflwyniad ar-lein, wedi’i ffrydio’n fyw o Aberystwyth. Daeth nifer dda i’r digwyddiad gyda phartneriaid o ddwy ochr môr Iwerddon yn cymryd rhan, yn ogystal â rhanddeiliaid o’r pedair ardal ucheldirol a oedd yn bresennol i drafod potensial y prosiect a mwynhau’r bwrlwm o gyfarfodydd wyneb yn wyneb unwaith eto.

Ymweliad wyneb yn wyneb â Mynyddoedd y Preseli a Mynyddoedd Cambria

8-9 Ebrill 2022

Cyfarfu tîm prosiect CUPHAT o Brifysgol Aberystwyth, Coleg Prifysgol Dulyn ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed am y tro cyntaf wyneb yn wyneb ar gyfer ymweliadau safle â nifer o safleoedd treftadaeth ddiwylliannol a naturiol yn y ddwy ardal ucheldir yng Nghymru – y Preseli a Mynyddoedd Cambria. Ymunodd rhanddeiliaid ymgysylltu â’r gymuned leol o Planed a Menter Mynyddoedd Cambria â ni hefyd ar gyfer ymweliad pleserus iawn. Edrychwn ymlaen at ymweld ag ardaloedd ucheldir Wicklow a Blackstairs yn Iwerddon yn y dyfodol agos.

Trefnwyd ymweliad safle CUPHAT i’r Preseli, Cymru ar 8 Ebrill 22. Ymwelodd tîm CUPHAT â’r safleoedd treftadaeth a thwristiaeth posibl canlynol yn y Preseli: Pentre Ifan (Archaeoleg); Bryngaer Foel Drygarn (Archaeoleg, Daeareg a Pictiwrésg); Tafarn Sinc, Rosebush (hanes lleol, caffi sy’n cael ei redeg gan y gymuned a thrafodaethau gyda Planed); Chwarel Lechi Rosebush (Daeareg); Cerrig sefyll Waun Mawn (Daeareg ac Archaeoleg). Ymunodd Planed â’r tîm hefyd â’r grŵp rhanddeiliaid ymgysylltu â’r gymuned a oedd yn rhan o’r prosiect ar gyfer yr ymweliad â’r Preseli.

Bu UCD, PA a DAT hefyd yn ymweld â mynyddoedd y Cambria ar y 9fed o Ebrill 22. Ymwelodd y tîm â safleoedd treftadaeth a thwristiaeth posibl gan gynnwys: Canolfan ymwelwyr Nant yr Arian (Treftadaeth naturiol, twristiaeth antur); Rhaeadr Pont Devils (Pictiwrésg, Geomorffoleg); Hafod (Pictiwrésg); Cwm Ystwyth (Mwyngloddio); Ystrad Fflur (Archaeoleg); Caffi Banc yr Afon (Busnes lleol); Cors Caron Tregaron (Treftadaeth Naturiol). Cyfarfu’r tîm hefyd ag aelodau o grŵp rhanddeiliaid cymunedol Menter Mynyddoedd Cambria.

Menter Cymru Iwerddon newydd i hybu twristiaeth gynaliadwy

17eg Mawrth 2022

Llun:  Cromlech Pentre ym mynyddoedd y Preseli, un o bedair ardal arfordirol sydd yn rhan o’r prosiect Ucheldiroedd Arfordirol: Treftadaeth a Thwristiaeth.

Bydd academyddion o Brifysgol Aberystwyth yn arwain ar brosiect Ewropeaidd newydd i hybu twristiaeth mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru ac Iwerddon.

Bydd y prosiect newydd gwerth €3 miliwn, a gyhoeddwyd ar ddydd Sant Padrig, yn cael ei arwain gan ymchwilwyr o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth mewn partneriaeth â Choleg Prifysgol Dilyn ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed. 

Fe’i hariennir gan €2.4m o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yr Undeb Ewropeaidd drwy raglen Cydweithio Cymru Iwerddon.

Bydd y cynllun yn gweithredu am gyfnod o ddwy flynedd ym mynyddoedd y Cambria, y Preseli, Wicklow a Blackstairs er mwyn manteisio ar eu treftadaeth ddiwylliannol a naturiol i hybu mathau cynaliadwy o dwristiaeth.  

Mae’r prosiect Cymru-Iwerddon yn cynnwys sawl elfen, gan gynnwys: defnydd o dechnoleg i ychwanegu at brofiad ymwelwyr; creu rhwydwaith dwristiaeth a strategaeth farchnata ar y cyd; a chydweithio gydag ysgolion ac eraill i gofnodi hanesion diwylliannol lleol.

Mae’r fenter, a adnabyddir fel prosiect Ucheldiroedd Arfordirol: Treftadaeth a Thwristiaeth yn anelu at ddod â budd economaidd yn ogystal. Y nod yw cynyddu niferoedd y twristiaid yn yr ardaloedd hyn o 5% ynghyd â’u gwariant, gan greu neu ehangu wyth microfenter leol.

Wrth esbonio’r gwaith, dywedodd yr Athro Rhys Jones o Brifysgol Aberystwyth: “Yn hanesyddol mae pedair ardal ucheldirol arfordirol Mynyddoedd Cambria, y Preseli, Wicklow a Blackstairs wedi bod yn ddibynnol ar ddiwydiannau traddodiadol fel amaethyddiaeth a choedwigaeth. Mae gan bob un o’r pedair ardal rywfaint o seilwaith twristiaeth yn ogystal ond, ar hyn o bryd, nid yw hyn wedi’i ddatblygu’n ddigonol, yn enwedig o’i gymharu â’r dwristiaeth dorfol sy’n digwydd ar hyd arfordiroedd Iwerddon a Chymru.

“Yng Nghymru ac Iwerddon, mae Brecsit yn debygol o gael effaith ar dwristiaeth. Fodd bynnag, yn annisgwyl, gallai Brecsit a phandemig COVID-19 annog mwy o bobl i fynd ar wyliau gartref. Mae hyn yn creu cyfleoedd i fwy o ranbarthau elwa o fathau newydd o dwristiaid domestig sydd am fynd ati i archwilio’r ardaloedd o ucheldir arfordirol llai masnachol.”

Yn arwain y prosiect yn Iwerddon mae Dr Christine Bonnin a Dr Arlene Crampsie o Ysgol Daearyddiaeth Coleg Prifysgol Dulyn. Dywedodd Dr Bonnin a Dr Crampsie: “Gan dynnu ar dreftadaeth naturiol a diwylliannol cyfoethog yr ucheldiroedd arfordirol sy’n ffinio â Môr Iwerddon, mae’r prosiect hwn yn cynnig cyfle cyffrous i gymunedau lleol a rhanddeiliaid twristiaeth ddatblygu cynigion twristiaeth gynaliadwy, leol priodol. Gan gyfuno mentrau twristiaeth treftadaeth bresennol a newydd, bydd y prosiect yn arddangos agweddau cyffredin ac unigryw ein treftadaeth ar y cyd i gynulleidfa amrywiol o ymwelwyr, gan helpu i adeiladu twristiaeth gynaliadwy trwy ddatblygu cymunedol.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Rydym yn croesawu datblygiad prosiectau a fydd yn gwella profiad ymwelwyr yng Nghymru a hefyd yn cryfhau ein perthynas â’n cymydog Ewropeaidd agosaf, Iwerddon. Mae’r prosiect hwn yn cyd-fynd â’n strategaeth dwristiaeth trwy gefnogi ein huchelgais i dyfu twristiaeth mewn modd sydd yn gynaliadwy trwy ymestyn y tymor ac annog ymwelwyr i ddarganfod ardaloedd newydd sy’n barod ar gyfer twristiaeth. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r tîm ar brosiect arall a fydd yn dod â’n dwy wlad yn nes at ei gilydd.”

Dywedodd Gweinidog Gwariant Cyhoeddus a Diwygio Llywodraeth Iwerddon, Michael McGrath, TD: “Rwy’n llongyfarch y partneriaid ym mhrosiect Treftadaeth a Thwristiaeth yr Ucheldiroedd Arfordirol (CUPHAT) am eu llwyddiant wrth ddenu cymorth gan Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru 2014-2020 i wella potensial twristiaeth rhai o ardaloedd mwyaf ymylol Cymru ac Iwerddon. Maent yn ardaloedd o harddwch naturiol gwych a chefndiroedd hanesyddol cryf. Bydd adeiladu ar yr adnoddau hyn trwy ddatblygu twristiaeth gynaliadwy yn helpu i ddatgloi potensial economaidd y rhanbarthau hyn nad yw wedi’i gyffwrdd. Mae prosiectau a phartneriaethau fel hyn yn symbolau pwysig o’r cydweithio parhaus rhwng Cymru a De Ddwyrain Iwerddon.”

Dywedodd Kenneth Murphy o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed: “Dyma gyfle gwych i arddangos i’r byd y tirweddau ucheldirol unigryw hyn yng Nghymru ac Iwerddon. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’n partneriaid yn Aberystwyth a Dulyn.”

Mae manylion llawn am y prosiect ar gael ar y wefan Ucheldiroedd Arfordirol: Treftadaeth a Thwristiaeth.

Dolenni cyswllt:

Gwybodaeth Bellach:
Arthur Dafis, Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus, Prifysgol Aberystwyth 07841979452 / aid@aber.ac.uk

Prifysgol Aberystwyth www.aber.ac.uk  
Sefydlwyd Prifysgol Aberystwyth yn 1872 ac mae’n brifysgol addysgu ac ymchwil flaenllaw. Cafodd ei henwi’n Brifysgol y Flwyddyn ar gyfer Ansawdd y Dysgu yn The Times/Sunday Times Good University Guide 2018 a 2019, a Phrifysgol y Flwyddyn yng Nghymru yn 2020. Yn ôl Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr 2020, roedd Aberystwyth ar y brig yng Nghymru, ac o’r prifysgolion a restrwyd yng nghanllaw prifysgolion y Times / Sunday Times 2021 roedd Aberystwyth yn rhif un yn y DU am Brofiad Myfyrwyr ac Ansawdd y Dysgu. Dengys y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf bod 95% o’r gweithgaredd ymchwil a gyflwynwyd gan Aberystwyth o safon ryngwladol neu uwch. Mae’r Brifysgol yn gymuned o oddeutu 8,000 o fyfyrwyr a 2,000 o staff, â’r nod o ddarparu addysg ac ymchwil sydd yn ysbrydoli mewn awyrgylch cefnogol, creadigol ac eithriadol. Elusen gofrestredig rhif 1145141.

Menter Cymru Iwerddon newydd i hybu twristiaeth gynaliadwy – Prifysgol Aberystwyth