Pleidleisiwch am y ddelwedd orau yng Nghystadleuaeth Ffotograffiaeth CUPHAT!
O’r nifer fawr o geisiadau cyffredinol a gawsom, mae tri chais o bob rhanbarth yn Iwerddon a Chymru wedi’u rhoi ar y rhestr fer gan banel o aelodau tîm CUPHAT. Llongyfarchiadau i bob un o’r cynigion ar y rhestr fer.
Bydd y pleidleisio yn parhau ar agor tan 5pm, 15 Mehefin 2023. Cyhoeddir yr enillwyr rhanbarthol ym mhob un o ddigwyddiadau Gŵyl CUPHAT rhwng 20-28 Mehefin, a chyhoeddir yr enillydd cyffredinol ar y cyfryngau cymdeithasol ar 29 Mehefin.
I fwrw eich pleidlais ym mhob rhanbarth, dewiswch eich hoff ffotograff ac yna cliciwch ar “VOTE” o fewn y rhanbarth hwnnw. (Gallwch fwrw pleidlais yn unrhyw un neu bob un o’r rhanbarthau; fodd bynnag, dim ond unwaith y byddwch yn gallu pleidleisio fesul rhanbarth).