Nodau ac Allbynnau

Nod allweddol CUPHAT yw deall gwerth a photensial y dreftadaeth naturiol a diwylliannol mewn 4 ardal ucheldir arfordirol – Mynyddoedd Cambria a Mynyddoedd y Preseli yng Nghymru, a Mynyddoedd Wicklow a Mynyddoedd Blackstairs yn Iwerddon – a thrwy hynny gynyddu niferoedd twristiaid a denu ymwelwyr tramor newydd â’r pedair ardal hyn.

Mae CUPHAT yn ceisio gwneud hyn drwy annog cymunedau lleol i fyfyrio ar eu treftadaeth naturiol a diwylliannol, a’i dathlu.

Er mwyn cyflawni’r nodau hyn, bydd allbynnau CUPHAT yn cynnwys:

  • Cydgysylltu ag o leiaf 12 o gymunedau ucheldir arfordirol, 3 o bob un o’r 4 ardal ucheldir arfordirol, am eu cydweithrediad a’u cyfranogiad mewn twristiaeth ddiwylliannol, naturiol a threftadaeth
  • Creu rhwydwaith twristiaeth o fewn a rhwng pob un o’r 4 ardal ucheldir arfordirol i hyrwyddo twristiaeth ddiwylliannol, naturiol a threftadaeth a geir yn yr ardaloedd hyn.
  • Datblygu strategaeth farchnata ar gyfer yr ucheldiroedd arfordirol, a fydd yn seiliedig ar themâu cyffredin (e.e. daeareg/geomorffoleg, bioamrywiaeth, archeoleg, a bywydau cymunedol).
  • Hyrwyddo profiadau twristiaid, ac annog ymweliad â dwy neu fwy o ardaloedd yr ucheldir arfordirol.
  • Gwella profiad twristiaid mewn 8 safle treftadaeth ddiwylliannol a naturiol presennol, gan wneud y profiad yn fwy cofiadwy.
  • Nodi 8 safle neu brofiadau treftadaeth ddiwylliannol a naturiol newydd yn yr ardaloedd ucheldirol, trwy ddefnyddio gweithgareddau Gwyddor y Dinesydd.
  • Helpu i greu 8 microfenter ychwanegol yn seiliedig ar dreftadaeth yr ucheldiroedd arfordirol.
  • Adnabod mathau newydd o dwristiaid a fyddai’n mwynhau ymweld â’r ucheldiroedd arfordirol.
  • Cynyddu niferoedd twristiaid 5%, fydd yn annog gwariant twristiaid yn y 4 ardal a thrwy hynny gynyddu bywoliaeth gynaliadwy yn yr ucheldiroedd.
  • Treialu model twristiaeth gynaliadwy, y gellir ei ddefnyddio wedyn mewn ardaloedd eraill o ucheldir arfordirol nad ydynt wedi’u datblygu’n ddigonol.
  • Creu pedair swydd cyfwerth ag amser llawn mewn mentrau a gynorthwyir, un ym mhob un o ardaloedd yr ucheldir arfordirol.